St Illtud's Galilee Chapel, St Illtud's Church, Llantwit Major

“Eglwys Gadeiriol y Fro” yn Derbyn Grant Loteri

O’r braidd y gall unrhyw eglwys blwyf gynnig mwy i’r ymwelydd nag Eglwys Illtud Sant yn Llanilltud Fawr. Mae gan yr eglwys hon lle mae addoli Crist wedi parhau am dros 1500 o flynyddoedd yn ddi-baid, hanes nodedig nad yw eto wedi’i orffen.

Yn wreiddiol sylfaen Celtaidd yr oedd mewn llecyn ar Nant yr Ogni lle sefydlodd Illtud tua‘r flwyddyn 500 OC. Roedd Illtud yn un o’r saint Cymreig a deithiai ar hyd yr arfordiroedd gorllewinol gan gadw’r Efengyl yn fyw ar ô l i’r Rhufeiniaid encilio o’r wlad. Mae’r ysgol a sylfaenodd yn Llanilltud Fawr yn cael ei hadnabod fel y ganolfan dysg hynaf ym Mhrydain. Oddi yma sefydlodd ei hoffeiriaid eglwysi yn ei enw trwy Dde Cymru gyfan a Llydaw.

Daeth y Normaniaid yma ac adeiladu’r eglwys gerrig gyntaf, yna ychwanegwyd ati yn y drydedd ganrif ar ddeg, cyfnod mawr o adeiladu eglwysi yn y Fro. Gall ymwelwyr weld rhes o drysorau canoloesol a diweddarach – cornelyn Jesse prin o’r drydedd ganrif ar ddeg wedi’i gerfio o garreg, peintiadau mur o Gristopher Sant a Mair Magdalen, allor canoloesol a oedd unwaith yn garreg fedd, delwau canoloesol ac o oes Elizabeth, sgrin addurnol ryfeddol wedi’i gwneud o gerrig wedi’u cludo o Portland a’r Mendips.

Does dim rhyfedd i John Wesley pan fu’n pregethu yma yn 1777 ddisgrifio eglwys Illtud Sant fel yr harddaf yng Nghymru.

Trysor mwyaf yr eglwys yw ei chasgliad o gerrig a chroesau Celtaidd, o’r nawfed ganrif yn bennaf. Mae un groes wedi’i disgrifio fel y groes harddaf ym Morgannwg, tra bod dwy garreg yn gofiannau i frenhinoedd lleol.

Y problem yw fod y cerrig yn cael eu cadw mewn eglwys brysur fywiog ac er mwyn eu gweld yn agosach mae’n angenrheidiol i neidio dros fynach canoloesol, yna dringo dros bentwr o gadeiriau gan beryglu aelod o’r corff os nad bywyd.

Yn ffodus mae pethau ar fin newid. Mae’r eglwys wedi derbyn grant treftadaeth oddi wrth y Loteri i ddechrau datblygiad i ail-adeladu Capel Galilee adfeiliol di-do ar derfyn gorllewinol Illtud Sant. Y cynllun yw i leoli strwythur modern y tu mewn a thros y muriau sy’n bodoli – dehongliad o’r unfed ganrif ar hugain i hen problem. Fe gaiff y cerrig a’r delweddau eu symud i mewn fel y cam cyntaf i sefydlu canolfan addysgiadol a fydd yn adrodd hanes Cristnogaeth Gymreig a Cheltaidd. Bydd adnoddau ymchwil mynediad i’r anabl gyda thoiledau a chegin mewn festri gyfagos.

Mae llawer o’r gronfa ar gael yn barod, ond cyn diwedd y flwyddyn bydd rhaglen o weithgareddau i godi arian.